Spiritual Hypnosis Energy Healing
So Ive decided to write this blog in welsh as the session was….
Ddoth y ddynas yma ataf yn bennaf I holi am ei phroblemau iechyd ac I ddarganfod mwy am ei hun. Yn gerddor ,gweithio mewn proffesiwn prysur ,Mam a gwraig. Ar ol siarad am ei bywyd aethom Ir hypnosis a gweld be oedd ei is-ymwybod am ddangos iddi heddiw.
Dangoswyd iddy ei hun fel plentyn bach mewn pentre glofaol yma,n Nghymru. Dim ond yn bedair oed tuallan I iard yr ysgol ar prifathro,n gweithi arnynt I fyhafio a dychwelyd nol mewn ir dosbarth. Roedd hin gweld y gwersi yn ddiflas dros ben ddim yn hollol siwr be oedd hi fod I neud. Or olygfa yma aethom yn ein blaen a gweld ei hun nawr efo teulu,efeilliaid(hogia) ai gwr wrth iddi brepario bwyd I swper. Ei gwr yn Saer ac yn teimlo yn agos ato. I fwyd roedd ffesant a chydig o fara. Diwrnod arferol meddai ,yn teimlo yn hapus iawn ai theulu bach. Eglurodd fuodd heibio ei Mam heddiw yn un o unorddeg wedi colli ei Thad yn y chwarel flynnyddoedd gynt mewn damwain,fe gollwyd pum bywyd gan I do yr chawrel ddisgyn arnynt.Eglurodd ei bod wedi cael bywyd caled ,ac nawr roedd ei Mam yn tyfu tatws ei hun a ieir yn yr ardd gefn. Gofynnais os gath ei Mam help ariannol rol colli ei Thad? a dweud gath hi tair swllt gwerth flwyddyn o gyflog yn unig.
Symudon ymlaen eto wedyn I ddiwrnod arall pan glywodd swn mawr o gyfeiriad y chwarel ar gloch yn canu a mwg yn syrthio lawr ar bopeth….roedd hi wedi rhewi yn ei unman, wedi cael braw …Roedd pawb yn sgrechian a rhedag tuag at y chwarel. Ddwedodd bod y llwch wedi dod lawr ar bopeth ,yr awyr wedi troi o las I lwyd. Y gwragedd ai chymdogion yn crio. Diwrnod trist iawn. (wrth iddi edrych ar yr olygfa yma …roedd yn amlwg imi fod hwn wedi ei effeithio yn ddyfn)ac mae holl bwysig inni fedru adael yr emosiwn yma allan….darn pwysig iawn o hypnosis fel therapi.
Ar ol y drychineb eglurodd bod ei gwr yn drist di colli darn oi hun, fel bod y llwch wedi dwyn ei hapusrwydd. Fe gollo nw un mab y diwrnod hwnnw ,fe fu 53 o ddynion eu lladd I gyd y diwrnod hwnnw ac er bo mwy a mwy o ddamweiniau yn y chwarel dal I fynd oedd y chwarel.Eglurodd ei bod hin 1927 .Gofynnais sut oedd y gymdeithas? yn flin meddai, llwch ar bawb …Symudon ymlaen eto wedyn I ddiwrnod arall ,diwrnod angladd ei gwr fu farw medda hi wedi digalonnin llwyr. Yn sefyll tuallan ir Capel , ag ofn mawr dweud hwyl fawr iddo. Ei gwr yn 56 a hitha yn teimlo yn hen yn 50 nawr,ei chroen yn denne,wedi gwisgo .Eglurodd roedd canu da ond roedd hi ofnus I fod ar ben ei hun. Welson wedyn ei diwrnod ola yn y bywyd hon yn gorwedd ar ei gwely ar taflenni gwely yn drwm arni ,gydar merch yn nghyfraith yn edrych ar ei hol. Wrth iddi adael ei chorff roedd hin teimlon iawn wan a pwrpas y bywyd hon oedd I ddysgu am colled a chariad.
Wedyn welodd goedan ,gwahanol liwiau ,eglurodd bod gwraidd y goedan yn dangos gwahanol fywydau . Eglurodd or lle yma mae rhywun yn medru dewis gwahanol fywydau iw edrych ac ymweld. Ddewisiodd lliw melyn ac welodd dyn a dynas yn ffruo dros twrci!…penderfynnodd nad oedd angen iddi ymweld ar bywyd yna gan ddewis gwreiddan arall, lliw glas tro yma….a ddoth mewn I fywyd ar ynysoedd yn Hawaii fel dyn….amser maith yn ol. Digon o bysgod heno ,gwledd I bawb meddai. Roedd hin fywyd syml hapus,efo ddigonnedd o ffrwytha ,papya, coco,a physgod ,doedd dim angen lot arnynt. Eglurodd ei bo nw yn gymuned fach ,yn edrych ar ol eu gilydd yn byw mewn paradwys. Yn gymuned traddodiadol ac un dynas yn helpur gymuned wrth roi bendith ir tir a diolch am phopeth yn cynnwys y Ddaear …dynas doeth meddai ,bydwraig ac yn eu helpu pan fyddant yn sal. Gofynnais maint y gymuned? 6 I 7 teulu ,roedd cymuned arall ochor arall ir ynys ond doedda nw byth yn eu gweld. a byth yn cael trafferth. Glywodd swn mawr fel trane a gweld mwg yn yr awyr eglurodd y ddynas doeth bor Ddaear yn rhoi enedigaeth ac fu raid iddynt adael. Roedd y mynydd yn ffrwydro ar llosgfynnydd wedi atgyfodi. Symydodd y gymuned bach mewn cychod am ddiwrnodau I chwilio am ardal neu ynys arall I fyw arno. Rol beth amser ffeindio nw ynys arall I fyw arno. Roedd hin maser ail gychwyn ac ail adeiladu.
Wedyn ar ol y fywyd ynys ymwelon a fywyd arall yn Nghanada fel dyn yn byw oth y tir ac yn byw efoi Dad ai Daid mewn caban yng nghanol y coed.Roedd genod y teulu I gyd wedi marw ar tri ohonynt yn dal ceirw fel bwyd a sychur cig ,eto bywyd syml iawn,Ond mi oedd yr hogyn yn aflonydd ac awydd gweld mwy or byd. Ffeindiodd gariad ac ar ol priodi penderfynnodd y ddau ohonynt I drio eu lwc ir de ,I Kansas ,America. Fuont yn trafeilio a gweithio eu hunain lawr ir De gan aros mewn gwestai ar y ffordd. Ar ol cyrraedd Kansas roedd gwaith yn brin iawn ,y wraig yn feichiog nawr, a lot o boeni am arian. Ar ol cyfarfod ryw foi un noson yn y tafarndy roedd yn obeithol iawn am gychwyn ffres….dim ond unwaith meddai….lladrata. Beth bynnag fei ffeindwyd allan ar cosb oedd crogi!. Ar ol iddo basio or corff gofynnais beth oedd pwrpas y bywyd yma ,I siarad ,tase fo ai wraig wedi siarad yn hytrach nag iddo fynd I yfed fyddair canlyniad wedi bod yn wahanol….yn dda I ddynion agor fynnu.
Wedyn es ymlaen I ofyn ei chwestynnau . Gofynnais beth iw ei phwrpas nawr yn ei bywyd yma… I fod oedd yr ateb ac I fod ei hun.Gofynnais am ei aura ,lliw Indigo iw hi mae dipyn ohonynt o gwmpas. Mae ei egni yn effeithio bobol gan gynyddu dirgryniad I rheini sydd yn dod yn agos ati….gofynnais maint ei aura….9 milltir oedd yr ateb! Maen holl bwysig iddi fod yn byw ble mae hi nawr fel bod ei egni yn helpu newid pethau ar y Ddaear I wella pawb oi chwmpas . Gofynnais be oedd pwrpas dangos y tair bywyd arall iddi heddiw? er mwyn dangos iddy I fwynhau ei hun ei bod wedi gwneud lot or blaen ac nawr iddi fwynhau ,doth nol ir ddaear yr adeg yma I helpu ac I wirfoddoli. Gofynnais sut oedd ei chakras ..ei olwynion egni ,roedd ei gwddw ddimn troi rhy dda felly aethon ati Iw gywirio ar olwynion egni eraill hefyd. Ers ei phlentyndod fuodd hin diodde o chlefyd siwgwr,gofynnais pam ..gan bod ei sysdem yn paffio a hi, ond ar ol heddiw mi wellith yn ara bach ac hefyd cael gwared or clefyd.Gofynnais fur meddygon yn cal braw …byddan oedd yr ateb!aethon ati I helpu drwishior pancreas iddy. Hefyd ers mwyafrif oi bywyd bu hi efo haint sinws drwg ar eglurhad oedd bod y bywydau eraill wedi effeithio hun ac mi wellith o hun mlaen efo dim mwy o broblemau. Ar ol ir sesiwn orffan roedd hin teimlo llawer gwell ac yn anadlu yn normal.Gofynnais pam fod arni ganglion ar ateb oedd bo hi ddim I ddal emosiynnau I mewn au gadael nw allan. Cwestiwn arall oedd ganddi oedd pam fod hi methu rhedag…ar ateb bod hi wedi arfer hedfan!.
Wrth inni orffen y sesiwn y prif beth iddy wneud iw bod, mai ei egni hi yn sianelu egni mewn ir Ddaear a phawb oi chwmpas ac yn bennaf iddy fod ei hun a dilyn llwybyr ei hun!!!!! Sesiwn braf arall xxxx